Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Iau, 11 Hydref 2018
Amser: 09.02 - 15.10
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Bwrdd: |
Y Gwir Anrhydeddus y Fonesig Dawn Primarolo (Cadeirydd) Ronnie Alexander Trevor Reaney Michael Redhouse Y Fonesig Jane Roberts |
Swyddogion: |
Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol Matthew Richards, Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol John Chick, Pennaeth Cymorth Busnes i’r Aelodau Rebecca Hardwicke, Partner Busnes Adnoddau Dynol yr Aelodau Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Ymgysylltu |
Staff y Pwyllgor: |
Lleu Williams, Clerc Sian Giddins, Dirprwy Glerc |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod.
1.2 Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2018.
1.3 Cytunodd y Bwrdd ar gylch gorchwyl y Grŵp Llywodraethiant ar gyfer Cynllun Pensiwn Staff Cymorth Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Croesawodd y Bwrdd y ffaith bod Comisiwn y Cynulliad wedi enwebu ei Gyfarwyddwr Cyllid i gynrychioli'r Comisiwn ar y Bwrdd, ochr yn ochr â Phennaeth Pensiynau'r Comisiwn ac aelod o'r Bwrdd Taliadau.
1.4 Nododd y Bwrdd fod swydd wag o hyd ar y Bwrdd Pensiynau ar gyfer Cynllun Pensiwn Aelodau'r Cynulliad yn sgil ymddiswyddiad Caroline Jones AC o'r rôl. Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at Gomisiwn y Cynulliad, gan ofyn i'r Comisiwn enwebu cynrychiolydd i'r Bwrdd Pensiynau cyn gynted ag y bo modd er mwyn sicrhau dilyniant yn yr aelodaeth.
1.5 Nododd y Bwrdd ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i feichiogrwydd, mamolaeth a gwaith yng Nghymru. Cytunodd y Bwrdd i drafod y materion perthnasol a godwyd yn yr ymchwiliad hwn yn ei flaenraglen waith lle bo'n briodol.
Cam gweithredu:
Yr ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2018.
2.1. Trafododd y Bwrdd y dystiolaeth a gafwyd fel rhan o'r adolygiad a chytunodd ar yr eitemau a ganlyn:
- pa faterion y byddai'n eu gohirio tan ei adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad;
- pa faterion y byddai'n ymgynghori arnynt fel rhan o'r adolygiad hwn;
- y camau nesaf yn dilyn ei ymgynghoriad ar hyblygrwydd y lwfansau sy'n ymwneud â'r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol.
Materion i'w hystyried o fewn ffrydiau gwaith eraill y Bwrdd
2.2. Trafododd y Bwrdd y dystiolaeth a gafwyd ar nifer o faterion, a chytunodd y byddai rhai o'r materion hyn yn cael eu hystyried fel rhan o'i adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad.
Cam gweithredu:
Y Bwrdd i drafod y dystiolaeth a gafwyd fel rhan o'i adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad.
Ymgynghori ar y materion sy'n weddill
2.3. Trafododd y Bwrdd y dystiolaeth a gafwyd ynghylch y darpariaethau canlynol:
- cyllid ar gyfer cyflogi aelodau o'r teulu;
- amodau a thelerau staff cymorth;
- cyflogau staff cymorth.
2.4. Cytunodd y Bwrdd ei fod wedi cael digon o dystiolaeth ar y materion hyn i ymgynghori ar nifer o gynigion i ddiwygio'r darpariaethau a amlinellir isod:
- cael gwared ar y cyllid i Aelodau'r Cynulliad gyflogi aelodau o'r teulu a phartneriaid o'r diddymiad nesaf;
- cael gwared ar y cyllid ar gyfer unrhyw aelodau teulu newydd a benodwyd (neu a ddyrchafwyd neu y newidiwyd eu contract cyfredol) ar ôl 24 Hydref 2018;
- addasu cyflogau'r staff cymorth ym mis Ebrill bob blwyddyn yn ôl y newid yn yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion;
- cyflwyno diwrnodau braint ar gyfer staff cymorth;
- cyflwyno polisi absenoldeb tosturiol newydd ar gyfer y staff cymorth.
2.5. Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad fyddai 13 Rhagfyr 2018.
Camau gweithredu
Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn:
- cyhoeddi ac yn hyrwyddo'r ymgynghoriad;
- paratoi crynodeb o'r ymatebion i'r Bwrdd ei ystyried.
Ymgynghori ar hyblygrwydd y lwfansau sy'n ymwneud â'r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol
2.6. Trafododd y Bwrdd yr ymatebion i'r ymgynghoriad a chytunodd y dylid gweithredu'r newidiadau a ganlyn:
- dileu'r ddarpariaeth yn y Penderfyniad ar gyfer unrhyw drosglwyddiadau newydd o arian o Lwfans Staffio'r Aelod i'r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol o 1 Hydref. O ran yr Aelodau hynny sy'n trosglwyddo arian o'u Lwfans Staffio i'w Lwfansau Pleidiau Gwleidyddol ar hyn o bryd, rhoddir caniatâd iddynt barhau i drosglwyddo'r un swm bob blwyddyn tan ddiwedd y Pumed Cynulliad;
- cyllidebu'r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol yn ôl pwyntiau talu gwirioneddol o 1 Ebrill 2019;
- cyhoeddi gwariant pob Plaid Wleidyddol o’i Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol o 1 Ebrill 2019.
Camau gweithredu:
Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn:
- hysbysu'r Aelodau a'r staff cymorth o'r newidiadau sydd i ddod;
- paratoi Penderfyniad diwygiedig ar gyfer ei gyhoeddi.
3.1. Trafododd y Bwrdd ei flaenraglen waith ar gyfer adolygu ei Benderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad, a fyddai'n bodloni ei amcan o ran cyhoeddi'r Penderfyniad ym mis Mai 2020, blwyddyn cyn yr etholiad nesaf. Cytunodd y Bwrdd ar y flaenraglen waith hon.
3.2. Nododd y Bwrdd y gallai agenda diwygio etholiadol y Cynulliad effeithio ar ei raglen waith, a chytunodd i fonitro datblygiad y gwaith hwn.
3.3. Cytunodd y Bwrdd i rannu gwybodaeth bellach ynglŷn â'r rhaglen waith gydag Aelodau a staff cymorth, gan gynnwys manylion ynghylch sut y gallant rannu eu sylwadau â'r Bwrdd, maes o law.
Camau gweithredu:
Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn:
- monitro datblygiad agenda diwygio etholiadol y Cynulliad;
- rhannu gwybodaeth bellach gydag Aelodau a staff cymorth pan fo'n briodol.
4.1. Trafododd y Bwrdd yr adborth a gafwyd ar y Weithdrefn Ddisgyblu a'r Weithdrefn Gwyno a chytunodd i ymgynghori at ddibenion newid y gweithdrefnau hyn er mwyn sicrhau eu bod yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ac yn cyd-fynd â pholisi Urddas a Pharch y Cynulliad.
4.2. Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad fyddai 13 Rhagfyr 2018.
4.3. Cytunodd y Bwrdd i adolygu Cod Ymddygiad y staff cymorth unwaith y bydd yr adolygiad sy'n cael ei gynnal ar y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Cynulliad yn cael ei gwblhau, a hynny er mwyn sicrhau dull cyson lle bo angen.
Camau gweithredu:
Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn:
- cyhoeddi ac yn hyrwyddo'r ymgynghoriad;
- paratoi crynodeb o'r ymatebion i'r Bwrdd ei ystyried.
5.1 Nododd y Bwrdd yr ohebiaeth a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Comisiwn Etholiadol ynghylch yr adroddiad a ganlyn gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, "Dadansoddi Amrywiaeth: Rhwystrau a Chymhellion i sefyll yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru".
5.2 Nododd y Bwrdd y datganiad ysgrifenedig a wnaed gan y Llywydd, sef "Creu Senedd i Gymru" a'r adroddiad ategol sy'n amlinellu canfyddiadau'r ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yn ddiweddar.
5.3 Nododd y Bwrdd yr adroddiad a ganlyn gan y Gymdeithas Diwygio Etholiadol, "Lleisiau Newydd: Sut y gall gwleidyddiaeth Cymru ddechrau adlewyrchu Cymru".